Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024
Pwynt Craffu Technegol 1: Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y gwall yn y rhaglith i’r fersiwn Saesneg o’r Rheoliadau.
Mae’r Llywodraeth yn cytuno bod gwall fformatio wedi effeithio ar y cyfeiriadau yn y rhaglith ond nid yw’n ystyried bod y gwall yn newid effaith yr offeryn, sy’n parhau i fod intra vires. Mae’r Llywodraeth yn dibynnu ar yr egwyddorion a nodir yn Inco Europe Ltd v First Choice Distribution [2000] 1 WLR 586 i ategu ei barn. Nodir bod y troednodiadau yn fersiynau’r ddwy iaith o’r Rheoliadau yn cyfeirio’r darllenydd at y darpariaethau cywir. Yn ogystal, mae’r rhaglith i’r fersiwn Gymraeg o’r Rheoliadau wedi ei gosod yn gywir.
Pwynt Craffu Technegol 2: Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y troednodiadau anghywir yn Atodlen 1, Ffurflenni 1(C) a 4(C). Fodd bynnag, mae swm a sylwedd y ffurflenni’n glir, a dylai hynny sicrhau na roddir gwybodaeth anghywir.
Pwynt Craffu Technegol 3: Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y dylai’r cyfeiriad yn rheoliad 5(12) o’r Rheoliadau hyn at reoliad 7A(3) o Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 fod yn gyfeiriad at reoliad 7A yn fwy cyffredinol. Fodd bynnag, mae’r ffordd y mae rheoliad 5(12)(a) a rheoliad 5(12)(b) wedi eu drafftio, o’u hystyried gyda’i gilydd, yn gwneud y cyfeiriad a fwriedir yn glir.
Pwynt Craffu Technegol 4: Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y dylai’r gair “apelydd” yn y bedwaredd linell ym mharagraff 9 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau fod yn “cymeradwywr”, ond yng nghyd-destun yr Atodlen mae’n ystyried na fydd hyn yn achosi dryswch.
Pwynt Craffu ar Rinweddau 1: Diolch am nodi’r pwynt. Mae’r Llywodraeth yn ystyried y bydd gan y sawl sy’n debygol o ddefnyddio’r ffurflenni o dan sylw ddealltwriaeth dda o ystyr yr ymadrodd “gwaith adeilad risg uwch”. Fodd bynnag, derbynnir y gellid gwella hygyrchedd y ffurflenni drwy ychwanegu troednodyn yn egluro’r term lle y mae’n codi. Bydd y Llywodraeth yn ystyried cynnwys eglurhad o’r fath yn y dyfodol.